|
|
Mwy Am Cymru yn Llundain
Rydym yn sefydliad amhleidiol, er na ellir gwadu bod gennym nifer o wleidyddion ac unigolion sy’n awyddus i fod yn wleidyddion ymhlith ein haelodau. Os mai’r Cymry o’r cyfryngau ac o’r fforymau polisi cyhoeddus cymdeithasol ac economaidd oedd arloeswyr cynnar Cymru yn Llundain, bydd cipolwg cyflym mewn unrhyw gyfarfod heddiw yn dangos bod eu cyfoedion o fyd bancio a gwasanaethau ariannol, a’r celfyddydau, wedi ymuno â nhw.
|
| |

CefndirYm mis Mai 1994, penderfynodd aelodau Cymdeithas Gyhoeddusrwydd Cymry Llundain ac Adran Llundain y Sefydliad Materion Cymreig, ddod at ei gilydd i sefydlu Cymru yn Llundain. Y gymysgedd danbaid honno o gyfathrebu a chrebwyll yn y cyfryngau, trafodaeth a dadansoddi economaidd a chymdeithasol sy’n creu corff fel Cymru yn Llundain heddiw.
|
| |

Mwy o wybodaeth am Cymru yn LlundainAm ragor o wybodaeth, beth am ymaelodi neu ymuno â ni er mwyn cael ein cylchlythyr am ddim
|
|
Ein Nod:
-
Bod yn fan cyfarfod go iawn a rhith yn Llundain i’r rhai ym myd busnes, byd masnach, y celfyddydau, y cyfryngau, chwaraeon a’r proffesiynau y mae Cymru yn bwysig iddynt
-
Cynnig fforwm lle y gall aelodau, eu ffrindiau a’u partneriaid gyfrannu at y drafodaeth ynghylch materion cyhoeddus sy’n effeithio ar Gymru
-
Cynnig rhwydwaith yn Llundain sy’n cefnogi buddiannau ac achosion Cymru
-
Bod yn droedle rhwng Llundain a Chymru i unigolion a sefydliadau sy’n ceisio cyngor, cyfleoedd a’r cyfle i fanteisio ar gysylltiadau
-
Hysbysu unigolion sy’n awyddus i hyrwyddo Cymru ynghylch y materion sy’n wynebu Cymru mewn cyd-destun economaidd a chymdeithasol
-
Hyrwyddo Cymru a buddiannau Cymry ar wasgar yn Ninas Llundain a Llundain Fwyaf
|
|