Select your language  
 
 


 



 





... beth bynnag fo’ch cyswllt gyda Chymru, ni yw’r fforwm yn Llundain sy’n eich galluogi chi i gyfrannu at y drafodaeth genedlaethol ynghylch materion cymdeithasol, economaidd, chwaraeon, creadigol a busnes.
 
Cynhelir y rhan fwyaf o’n hystod eang o weithgareddau yn Llundain. Boed yn ddadl yn gynnar gyda’r hwyr ynghylch mewnfuddsoddi, sesiwn friffio gan Lysgenhadaeth UD ynghylch yr effaith Gymreig ar wleidyddiaeth UD, neu’n gyfarfod swper i rannu materion yn dawel am sefyllfa RFU, mae rhywbeth i annog dadl ac i gymell y meddwl neu hyd yn oed cyfranogiad. Hoffem feddwl bod y rhain yn gyfleoedd delfrydol i ddod at ein gilydd i ymlacio, cymharu nodiadau a rhannu materion yn gyfrinachol gydag eraill sy’n aelodau o Cymru yn Llundain. Ni chodir ffi aelodaeth ond bydd yn rhaid i aelodau sy’n mynychu ein Nosweithiau Swper misol neu’n digwyddiadau eraill, dalu am eu bwyd.
 

Ble ydym ni?

Rydym wedi ein lleoli yn Llundain, lle y cynhelir y rhan fwyaf o’n gweithgareddau.
 
Digwyddiadau rhwydweithio

Ni chodir ffi aelodaeth, ond bydd yn rhaid i aelodau sy’n mynychu ein Nosweithiau Swper misol neu ddigwyddiadau eraill, dalu am eu bwyd. Mae gennym nifer o aelodau nodedig.
 
Digwyddiadau Gwleidyddol

Ciniawau anffurfiol am bynciau penodol lle y gall aelodau sy’n meddu ar wybodaeth ac arbenigedd proffesiynol arbennig gyfarfod gyda gwleidyddion i drafod materion penodol y dydd a phynciau sy’n berthnasol i Gymru a’i dyfodol, yn fanwl.
 
Digwyddiadau Hyrwyddo

Wrth i Gymru fynnu cydnabyddiaeth fel brand o ansawdd, byddwn yn cyflawni ein rôl ni trwy gynorthwyo wrth hyrwyddo cyfleoedd busnes yng Nghymru ac ar ran Cymru, ac wrth godi ymwybyddiaeth o wasanaethau a chynhyrchion Cymreig i Cymru yn Llundain. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Busnes Rhyngwladol Cymru ac wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau hyrwyddo, digwyddiadau cerddoriaeth a digwyddiadau llenyddol, darlithoedd a chyhoeddiadau amrywiol.



 
 
Next event:Date: 16/6/2008
Andrew Haines Dinner
Andrew will discuss the challenges he faces as Chief Operating Officer of First Great Western
 
Speaker: Andrew Haines